Corws Merched Wayzata

Proffil
Rydym yn ferched ‘canol oed’ sydd ag angerdd am ganu ac am helpu eraill. Mae rhai yn dweud ein bod fel fersiwn Minnesota o’r ‘Calendar Girls’!
Tra ar daith i Langollen, rydym yn ymweld â Llundain ac rydym yn gobeithio gwneud perfformiad digymell, efallai ar ochor stryd, neu mewn capel, neu efallai mewn tŷ tafarn! Pwy â ŵyr? Yn syml, rydym yn hoffi perfformio unrhywle ac unrhyw bryd!
Ein nod proffesiynol yn Llangollen yw cynrychioli ein dinas, talaith a gwlad gyda hyder a balchder. Rydym yn gobeithio ennill y cystadlaethau Corau Merched a Chorau Alaw Werin trwy dangos ein llonder unigryw tra’n perfformio pob dewis.
Ein nod personol ydi mwynhau’r egni a charedigrwydd pobol Cymraeg a datblygu cyfeillgarwch gyda’r corau eraill sydd yn cystadlu. Mae pob diwrnod rydym yn Llangollen yn anrheg arbennig.
Pan rydym yn dychwelyd yn ôl adref o Langollen rydym hefyd yn gobeithio ymuno gyda ‘Twin Cities Public Television’ (TPT) er mwyn creu rhaglen ddogfen fydd yn dangos ein profiadau yn yr Eisteddfod.
Cystadlaethau
Eleni, fydd Corws Merched Wayzata yn cystadlu yn y cystadlaethau canlynol:




Negesfwrdd