Ers 1987 mae cystadleuaeth Côr y Byd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, yn cael ei chydnabod fel pinacl blynyddol y byd corawl…ac mae’r enillwyr bellach yn derbyn tlws mawreddog yr anfarwol Luciano Pavarotti.

Ar Llangollen.tv mae cyfle I chi fwynhau perfformiad pob côr buddugol sydd wedi derbyn yr anrydedd anhygoel yma ond yn fwy na hynny mae hefyd cyfle i chi bleidleisio am eich ffefryn a fydd yn cael eu coroni yn bencampwyr y pencampwyr.

Peidiwch ag oedi felly, mae gwledd o ganu corawl yn eich disgwyl chi ar wefan Llangollen.tv – cewch chi eich cyfareddu gan y perfformiadau anhygoel ac am y tro cyntaf erioed chi fydd y beirniaid.

Mae’r bleidlais bellach wedi cau.

Llongyfarchiadau i Gantorion Prifysgol Santo Tomas, Manila, Philippines (2010)  ar gael eu coroni’n Bencampwyr Côr y Byd.

1987 - Muzicko Društvo Josif Marinkovic, Zrenjanin, Iwgoslafia

1988 - Rodina Choir, Rousse, Bwlgaria

1989 - Budapest University Choir, Hwngari

1990 - Ohio State University Men’s Glee Club, Columbus, UDA

1991 - San Jose State University Choraliers, UDA

1992 - Allmanna Sangen, Uppsala, Sweden

1993 - Cantus, Trondheim, Norwy

1994 - Joyful Company Of Singers, Llundain, Lloegr

1995 - University of Santo Tomas Singers, Manila, Philippines

1996 - Detroit Concert Choir, UDA

1997 - Cantamus, Mansfield, Lloegr

1998 - Cantorion Sirenian, Wrecsam, Cymru

1999 - New Zealand National Youth Choir, Wellington,Seland Newydd

2000 - Kammarkören Sangkraft, Umea, Sweden

2001 - The Choir of Estonian Choral Conductors, Tallinn, Estonia

2002 - Pro Cantu Youth Choir, De Affrica

2003 - Northridge Singers of California State University, UDA

2004 - Cambridge Chord Company, Lloegr

2005 - Cywair, Castellnewydd Emlyn, Cymru

2006 - Stellenberg Girls’ Choir, De Affrica

2007 - Mount San Antonio College Chamber Singers, UDA

2008 - Akustika Chamber Singers, De Affrica

2009 - The Westminster Chorus, UDA

2010 - University of Santo Tomas Singers, Manila, Philippines

PENCAMPWYR CÔR Y BYD

2011 - Adventist University, Philippines

2012 - Delica Ton - Yr Almaen

2013 - Adelaide Chamber Choir, Awstralia

2014 - Estudio Coral Meridies, Yr Ariannin

2015 - Maynooth University Chamber Choir, Iwerddon

2016 - Bob Cole Conservatory Chamber Choir, UDA

2017 - The Aeolians of Oakwood University, UDA

2018 - The National University of Singapore Choir, Singapore